Datganiad hygyrchedd ar gyfer DEWi, y safle trosglwyddo diogel ar gyfer data yng Nghymru
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i DEWi (https://cyfnewidfadatadewi.llyw.cymru), offeryn ar y we a gynlluniwyd ar gyfer Awdurdodau Lleol ac Ysgolion i drosglwyddo data statudol ar lefel disgyblion a'r gweithlu h.y. ffurflenni Cyfrifiad, i Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio porth cyfnewid gwybodaeth diogel ar y rhyngrwyd.
Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- chwyddo’r testun hyd at 300% heb i’r testun syrthio oddi ar y sgrin
- llywio eich ffordd drwy’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio eich ffordd drwy’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae ganAbilityNetgyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os ydych yn anabl.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Diffyg dull llywio eilaidd fel adnodd chwilio neu fap o’r wefan
- Mae rhai dogfennau ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Adborth a manylion cyswllt
Os bydd arnoch angen gwybodaeth ynghylch y wefan hon:
E-bostiwch: IMS@llyw.cymru
Ffoniwch: 0300 062 5014
Ni allwn gynnig cymorth wyneb yn wyneb.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn anelu at eich ateb cyn pen 3-5 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â:IMS@llyw.cymru
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 12 Ionawr 2022.
Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar 04 Mai 2023.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 10 Awst 2022. Cynhaliwyd y prawf gan Connect Internet Solutions Ltd. Gwnaed hyn gan ddefnyddio SortSite a phecyn cymorth HTML_CodeSniffer
Cysylltu â ni
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd ac mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd.
E-bost:IMS@gov.wales
Ffôn: 0300 062 5014
Ni allwn gynnig cymorth wyneb yn wyneb.