Neidio i'r prif gynnwy
Welsh Government
Dydych chi ddim wedi logio i mewn

UK GDPR

O dan GDPR y DU, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio technolegau blaenllaw a meddalwedd amgryptio i ddiogelu eich data, ac yn cadw safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad heb awdurdod iddo.

Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti nac adran arall o'r llywodraeth.

Eich hawliau

O dan GDPR y DU, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Y rhain yw;

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Creu eich cyfrif DEWi unigryw

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfrif DEWi unigryw a diogel ar gyfer pob defnyddiwr mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru, ar ôl cyflwyno'r ffurflen gais am gyfrif defnyddiwr newydd, y gellir ei defnyddio i gael mynediad i DEWi.

Bydd y wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch yn cael ei darparu ar y ffurflen gais cyfrif defnyddiwr newydd er mwyn creu eich cyfrif DEWi unigryw:

Cwcis ar DEWi

Ffeiliau sydd wedi'u cadw ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â gwefan yw cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio'r DEWi, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. Nid yw'r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i'ch adnabod chi'n bersonol.

Rydym ond yn defnyddio cwcis sy'n gwbl angenrheidiol.

Cwcis sy'n gwbl angenrheidiol

Mae'r cwcis hanfodol hyn yn gwneud pethau fel:

Mae angen i'r cwcis hyn fod ymlaen bob amser.

Pobl sy'n anfon e-bost atom

Rydym yn defnyddio Diogelwch Haen Trafnidiaeth (TLS) i amgryptio a diogelu traffig e-bost yn unol â'r llywodraeth. Os nad yw eich gwasanaeth e-bost yn cefnogi TLS, dylech fod yn ymwybodol na fydd unrhyw negeseuon e-bost a anfonwn neu a dderbyniwn yn cael eu diogelu wrth eu cludo.

Byddwn hefyd yn monitro unrhyw negeseuon e-bost a anfonir atom, gan gynnwys atodiadau ffeiliau, ar gyfer firysau neu feddalwedd maleisus. Byddwch yn ymwybodol bod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost a anfonwch o fewn ffiniau'r gyfraith.

Newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi'i diweddaru ar y dudalen hon. Mae adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.

Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 21 Mawrth 2022.

Adborth

Rydym yn croesawu eich adborth. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd angen i ni gysylltu ag adrannau eraill y llywodraeth i ddod o hyd i'r wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd angen inni ei drosglwyddo i'n cyflenwyr technoleg.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch gwybodaeth bersonol wrth ymdrin â'ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Unwaith y byddwn wedi ymateb i chi, rydym yn cadw cofnod o'ch neges at ddibenion archwilio.

Sut i gysylltu â ni

Os ydych am wneud cais am wybodaeth am ein polisi preifatrwydd neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y caiff eich data ei ddefnyddio, gallwch anfon e-bost atom yn IMS@gov.wales neu ysgrifennu at:

Data Protection Officer
Welsh Government
Cathays Park
Cardiff
CF10 3NQ
E-mail:dataprotectionofficer@gov.wales